Paul Tillich

Paul Tillich
Ganwyd20 Awst 1886 Edit this on Wikidata
Starosiedle Edit this on Wikidata
Bu farw22 Hydref 1965 Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth yr Almaen Edit this on Wikidata
AddysgDoethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Friedrich-Wilhelms-Gymnasium Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwinydd, academydd Edit this on Wikidata
Swyddcaplan Edit this on Wikidata
PriodHannah Tillich Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg Edit this on Wikidata

Diwinydd ac athronydd Cristnogol Almaenig-Americanaidd oedd Paul Johannes Tillich (20 Awst 188622 Hydref 1965).

Ganed ef yn Starzeddel, Prwsia, ac astudiodd mewn sawl prifysgol yn yr Almaen gan ennill graddau mewn athroniaeth a diwinyddiaeth. . Fe'i ordeiniwyd yn weinidog Lutheraidd, a gwasanaethodd yn gaplan yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Treuliodd gychwyn ei yrfa academaidd ym mhrifysgolion Berlin a Marburg cyn cael ei benodi'n athro diwinyddiaeth yn Dresden a Leipzig ac yna'n athro athroniaeth a chymdeithaseg yn Frankfurt. Aeth yn alltud o'r Almaen wedi i'r Natsïaid esgyn i rym ym 1933, ac ymsefydlodd yn Unol Daleithiau America. Addysgodd yng Ngholeg Diwinyddol yr Undeb yn Efrog Newydd am 22 mlynedd cyn symud i Harvard ym 1955. Treuliodd dair mlynedd olaf ei oes yn athro diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Chicago.

Dylanwadwyd ar Tillich yn gryf gan ei brofiadau ar Ffrynt y Gorllewin, ac aeth ati i herio rhagdybiaethau ac ymhoniadau cymdeithasol a chrefyddol ei wareiddiad, ac archwilio diwylliant cyfoes y Gorllewin trwy ddrychau diwinyddiaeth ac athroniaeth. Yn ystod ei yrfa yn yr Almaen, amlinellai ei "ddiwnyddiaeth diwylliant", gan ymdrin â'r ffydd hunanamlwg, anymwybodol sydd ymhlyg mewn systemau meddwl a strwythurau cymdeithasol sydd yn seciwlar i bob golwg.


Developed by StudentB